|
Cymdeithas y Cymod Fellowship of Reconciliation in Wales Rhif Elusen /Charity No 700609
3 Tai Minffordd, Rhostryfan, Caernarfon, Gwynedd LL54 7NF Ffôn 01286 830913 E-bost post@cymdeithasycymod.org.uk |
14/12/2012
Mr. Powell
Cadeirydd
Y Pwyllgor Deisebau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Annwyl Mr Powell
Parthed Deiseb P-04-432
Diolch i chi am anfon copi atom o lythyr Jeff Cuthbert sy’n ymateb i’n deiseb ni ynghylch atal recriwtio’r lluoedd arfog mewn ysgolion.
Buasem yn ddiolchgar pe baech chi’n gofyn i’r Gweinidog ymateb i’r llythyr yma.
Rydym ni yn cytuno gyda Jeff Cuthbert fod hi yn bwysig i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd a chytbwys i bobl ifanc am yrfaoedd, hyd yn oed yn y Lluoedd Arfog. Fodd bynnag mae ein deiseb ni yn gofyn ar Lywodraeth Cymru i annog ysgolion i atal y Lluoedd Arfog rhag recriwtio plant. Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud dan Erthygl 8, paragraff 1, o’r Protocol Dewisol ar Gonfensiwn Hawliau’r Plentyn ar ddefnyddio plant mewn gwrthdaro arfog fod (yn y Saesneg gwreiddiol) :- “Army recruiting initiatives include presentations in schools by Army careers advisers(ACA), a variety of Army youth team and Army recruiting team activities, attachments and visits tounits, school fairs, Combined Cadet Force (CCF), advertising and marketing initiatives, membership of the Army’s Camouflage Club.”
Mae Llywodraeth Prydain felly wedi datgan yn glir bod y Lluoedd Arfog yn mynd i mewn i ysgolion i recriwtio plant ac nid i gynnig arweiniad diduedd a chytbwys am yrfaoedd i bobl ifanc. Mae ein deiseb felly yn unol a galwad Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawl y Plentyn i Lywodraeth Prydain” i ail ystyried ei pholisi o recriwtio plant i’r lluoedd arfog”.
Mae’r ffaith fod y Lluoedd Arfog yn ymweld ag ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig 50% yn fwy aml nag ardaloedd cyfoethog yn profi mai eu hamcan yw recriwtio plant.
Gawn ni fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i chi eto am eich hamser ac am ddod i gwrdd â ni ar risiau’r Senedd yng Nghaerdydd .
Edrychwn ymlaen yn eiddgar at dderbyn eich ateb
Yn ddiffuant
D. Arfon Rhys
Ysgrifennydd
Cymdeithas y Cymod yng Nghymru